37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol.
Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau.
Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; Therapi Lleferydd ac Iaith; fferylliaeth a nyrsio seiciatrig cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Oedolion Gwaharddedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 13 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person