30 awr yr wythnos
Rhan Amser
Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2028
A ydych yn angerddol am wella canlyniadau i blant a theuluoedd?
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â'n gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant fel Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau Blynyddoedd Cynnar.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno elfennau allweddol o'r rhaglen Dechrau'n Deg graidd, gan weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o bartneriaid i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
A chithau'n aelod o'r uwch dîm rheoli Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio gwasanaethau sy'n gwella canlyniadau i blant ifanc, yn enwedig y rhai sydd â'r angen mwyaf.
Y Rôl
Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm rheoli Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant cryf ac yn arwain datblygiad gweithredol a darpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg craidd, gan sicrhau bod darpariaeth o ansawdd uchel ar gael i blant a theuluoedd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau partner ehangach, byddwch yn goruchwylio datblygiad strategol gwasanaethau gan gynnwys:
Ymwelwyr Iechyd
Cymorth Rhianta
Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
Gwasanaethau Bydwreigiaeth
Byddwch yn defnyddio data perfformiad ac effaith i ysgogi gwelliant parhaus, gan sicrhau bod gwasanaethau yn parhau'n ymatebol i anghenion lleol a'u bod yn gyson â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys rheoli'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd gyda chyfrifoldebau rheoli llinell am Fwyd a Hwyl a'r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy.
Bydd gennych oruchwyliaeth o wasanaethau a gomisiynwyd a datblygu partneriaeth wrth gyfrannu at flaenoriaethau strategol ehangach ar draws y gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am arweinydd dynamig sydd â:
Phrofiad o reoli a datblygu gwasanaethau o fewn sectorau plant, cymorth i deuluoedd, addysg, iechyd neu sectorau cysylltiedig.
Hanes cryf o feithrin partneriaethau effeithiol ar draws sefydliadau.
Profiad o ddefnyddio data a gwybodaeth am berfformiad i werthuso effaith a gwella gwasanaethau.
Sgiliau rhagorol wrth gyfathrebu, dylanwadu a rheoli rhanddeiliaid.
Profiad o reoli staff a chefnogi datblygiad tîm.
Y gallu i feddwl yn strategol wrth gynnal ffocws ar ddarpariaeth weithredol a chanlyniadau.
Ymrwymiad i wella bywydau plant a theuluoedd drwy ymyrraeth gynnar ac atal.
Gan weithio fel rhan o wasanaeth cefnogol, cydweithredol a blaengar, yn ymrwymedig i welliant parhaus a dysgu proffesiynol, bydd deiliad y swydd yn cael cyfleoedd sylweddol i gyfrannu at arweinyddiaeth systemau ehangach a dylanwadu ar flaenoriaethau ar draws y blynyddoedd cynnar.
Mae trafodaeth gyda'n Rheolwr Strategaeth, Partneriaethau a Gweithrediadau Blynyddoedd Cynnar, Bethan Davies, yn cael ei hannog yn gryf ac mae'n hawdd trefnu hyn. Cysylltwch â bethan.davies@bridgend.gov.uk i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych neu i drefnu apwyntiad ar gyfer sgwrs anffurfiol.
Os ydych yn teimlo eich bod yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r angerdd angenrheidiol i ffynnu yn yr hyn sy'n addo bod yn rôl amrywiol, gyffrous a chyflym, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person