37 awr yr wythnos
Rydym yn ceisio penodi Rheolwr Canolfan Cymorth Cynnar dynamig a phrofiadol i ymuno â'n tîm arweinyddiaeth Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth weithredol allweddol gyda chyfrifoldeb am oruchwylio un o dair canolfan Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r gwaith o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, ataliol i blant, pobl ifanc, a'u teuluoedd a bydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith parhaus o ailgynllunio darpariaeth Cymorth Cynnar ar draws y fwrdeistref.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth agos â chydweithwyr Ar Ffiniau Gofal a Strategaeth i ymgorffori dull mwy integredig, cyson, ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth amserol sy'n lleihau'r angen am ymyriad statudol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae gweithio ar benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 3 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 4 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 9 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person