37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at fis Mawrth 2026
Rydym yn chwilio am Reolwr Tîm profiadol a llawn cymhelliant i arwain ein Tîm Comisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth o fewn Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth allweddol gyda chyfrifoldeb am reoli gweithredol, goruchwylio proffesiynol a datblygiad parhaus tîm gwaith cymdeithasol arbenigol sy'n gweithio gydag oedolion ag anghenion cymhleth.
Fel Rheolwr Tîm, byddwch yn darparu arweinyddiaeth gref a chyfeiriad gwaith cymdeithasol proffesiynol, gan sicrhau ymarfer o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Model Cynnydd. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio asesiadau ac adolygiadau cymhleth, cefnogi penderfyniadau comisiynu effeithiol, a sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.
Byddwch yn rheoli ac yn cefnogi tîm arbenigol drwy oruchwylio, hyfforddi a rheoli perfformiad, tra hefyd yn meddu ar lwyth achosion bach, cymhleth. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys cydweithwyr iechyd a darparwyr gwasanaethau, i sicrhau'r defnydd effeithiol o adnoddau a chanlyniadau o ansawdd uchel i unigolion.
Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol mewn gofal cymdeithasol cymhleth i oedolion a phrofiad amlwg o oruchwylio neu reoli staff. Bydd gennych wybodaeth gref am ddeddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau, profiad o reoli adnoddau a pherfformiad, ac ymrwymiad clir i ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Byddwch yn dod â sgiliau arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau rhagorol, gyda'r gallu i ysbrydoli a datblygu eraill, rheoli newid a gweithio ar y cyd ar draws ffiniau sefydliadol.
Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rôl ganolog wrth lunio a darparu ymarfer comisiynu o ansawdd uchel i oedolion ag anghenion cymhleth mewn cyfarwyddiaeth gefnogol a blaengar.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 28 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 5 Chwefror 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person