21 awr yr wythnos
Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a llawn cymhelliant sy'n hoffi helpu pobl, bydd croeso i chi yng ngwasanaethau preswyl Tŷ Cwm Ogwr i bobl hŷn.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys datblygu opsiynau bwydlenni gyda phreswylwyr, paratoi a choginio prydau bwyd, archebu a rheoli stoc, gweithredu offer trydanol, mecanyddol a golchi dillad.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm y gegin fewnol i sicrhau bod rheolaeth a safonau glendid a rheoli heintiau yn cael eu cynnal. Cymryd cyfrifoldeb am eich llesiant a bod yn ymwybodol o Bolisïau a Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd a'u dilyn
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys: -
Cynllunio, paratoi a choginio seigiau i gyrraedd safonau ansawdd.
Ymgysylltu â phreswylwyr i gynllunio a datblygu bwydlen o ddewis
Cynorthwyo wrth baratoi a chynllunio bwydlenni, addasu bwydlenni i ddiwallu anghenion deietegol arbennig unigol yn ôl yr angen.
Sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu cynnal yn ddigonol, gan gwblhau a gosod archebion dros y ffôn neu ddarparu rhestr i'r cynorthwyydd clercol i'w mewnbynnu ar ffurflenni archebu electronig at y cyflenwyr y mae'r cartref yn eu caffael. Cofnodi a gwirio archebion ar gyfer sicrhau ansawdd
Ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad parhaus i gynnal safonau gwasanaeth a chydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau perthnasol
Sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch, HACCP, Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) i gynnal safonau uchel o hylendid bwyd a glendid, a bod gweithdrefnau hylendid cywir ac arferion gwaith diogel yn cael eu dilyn.
Cwblhau ac adolygu'r holl ddogfennaeth hylendid bwyd diogel. Adolygu HACCP yn flynyddol neu fel y bo angen gyda'r Rheolwr Preswyl i gynnal safonau diogel o arferion gwaith.
Sicrhau bod yr holl gofnodion o gyfrifoldebau cegin yn cael eu cwblhau bob dydd gan yr holl aelodau sy'n gweithio yn y gegin.
Goruchwylio cynorthwywyr cegin neu gynorthwywyr domestig, gan ddarparu hyfforddiant i ddefnyddio offer cegin lle bo angen.
Cydlynu a chynorthwyo wrth lanhau'r gegin, offer gweini ac arwynebau cegin.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â: -
Gwerthoedd ac egwyddorion cadarn, sy'n canolbwyntio ar y person.
Y gallu i fod yn barchus a gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywydau pobl.
Sgiliau gwrando a chyfathrebu gweithredol
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi: -
Cyflog cystadleuol
Hawl i wyliau blynyddol hael
Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
Cymwysterau wedi'u cyllido a'u cefnogi'n llawn - FfCCh Lefel 2 ac uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol (os nad ydych wedi'u cyflawni eisoes) a thelir am Gofrestriad Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith.
Gwersi Cymraeg am ddim.
Bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau, ac ar wyliau banc os bydd angen. Bydd y shifftiau'n cael eu trefnu gan reolwr y gwasanaeth a byddant yn newid er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 5 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 6 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 13 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person