37 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 12 mis.
Rydym ar daith uchelgeisiol i gyflawni dull gwirioneddol gydgynhyrchiol o weithio gydag unigolion a'u gofalwyr. Credwn fod gan bawb gryfderau, a'n cenhadaeth yw cynorthwyo unigolion i gynnal eu hannibyniaeth fel y gallant fyw eu bywydau yn dda, credwn fod hyn yn dechrau ar y pwynt cyswllt cyntaf â'r adran. Mae ein “Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau” yn cefnogi dull amlddisgyblaethol o alluogi a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda rhwystrau a achosir gan salwch corfforol, iechyd meddwl, eiddilwch a heneiddio.
Rydym yn ceisio penodi technegydd therapi galwedigaethol amser llawn yn y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar (EIPH) sy'n wasanaeth ‘drws blaen’ tymor byr ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu ymatebion penodol o ran amser mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n seiliedig ar gryfderau, ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Yn aml, y tîm hwn fydd y cyswllt cyntaf y mae unrhyw un wedi'i gael gyda Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ac felly mae'n bwysig bod pobl yn gallu esbonio eu sefyllfa, teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cynorthwyo.
Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol, bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ar y cyd â'r Rheolwr Tîm EIPH, Uwch Ymarferwyr, Nyrs, Gweithwyr Cymdeithasol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, a Gweithwyr Cymorth.
Bydd y swydd yn gweithio ar y cyd ag ymarferwyr ehangach Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Tîm Adnoddau Cymunedol ac yn darparu gwybodaeth, cyngor, neu gymorth i bobl a'u teuluoedd a'u gofalwyr, i gynnal annibyniaeth a llesiant drwy atal a meithrin gwydnwch.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 11 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person