37 awr yr wythnos
Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn y Tîm Gwaith Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau. Gan weithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol, byddwch yn darparu ymyriad a chymorth penodol sy'n canolbwyntio ar wella i unigolion, gan gynnwys pobl ifanc, sy'n dioddef problemau iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau cysylltiedig o ganlyniad i'w sefyllfa gymdeithasol bresennol.
Byddwch yn gweithio gyda phobl mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i bobl a'u cryfderau a'u galluoedd.
Yn aml, y rôl hon fydd y cyswllt cyntaf y mae unrhyw un wedi'i gael gyda Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac felly mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle i esbonio eu sefyllfa a bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cynorthwyo mewn cyfnod sy'n aml yn gallu bod yn un anodd.
Byddwch yn mynd ati i hyrwyddo ein ‘Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau-Gweithio i Gyflawni Canlyniadau’.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 30 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 04 Awst 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 19 Awst 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person