37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i gefnogi plant i gyflawni sefydlogrwydd.
Rydym am sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc yn cael eu cyflawni drwy gwblhau asesiadau o ansawdd uchel a darparu pecynnau cymorth cynhwysfawr i blant i fyw mewn cartrefi parhaol.
Mae'r tîm sefydlogrwydd yn eistedd ochr yn ochr â'r gwasanaeth maethu gan berthynas yma yn CBSP ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth hwn. Fel aelod o'r tîm byddwch yn cael budd o fod rhan o dîm staff sefydledig a sefydlog. Rydym yn gwerthfawrogi ein gilydd ac yn cydnabod pwysigrwydd llesiant staff wrth allu ymgymryd â'u rôl.
Rôl Gweithiwr Cymdeithasol Sefydlogrwydd yw cynorthwyo gofalwyr sy'n berthnasau i allu darparu sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt mewn achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cwblhau asesiadau hyfywedd cychwynnol o ddarpar ofalwyr sy'n bersonau cysylltiedig lle bo angen.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar brofiad addas ac yn wybodus am gynnal asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig a Chynlluniau Cymorth o ran Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig a Gorchmynion sefydlogrwydd sydd ar gael i'r Llys, i'w galluogi i ddarparu asesiadau a chynlluniau chymorth cadarn sydd â thystiolaeth dda ac sy'n sicrhau llwyddiant lleoliadau parhaol i blant a'u gofalwyr sy'n berthnasau. Mae hyn yn cynnwys gallu darparu cyngor, ymgynghori a mentora i weithwyr cymdeithasol, darpar ofalwr Gwarcheidiaeth Arbennig a phobl ifanc sy'n ystyried Gorchymyn Llys amgen.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr roi tystiolaeth o'u gallu i weithio mewn partneriaeth â gofalwyr sy'n berthnasau, plant, Gweithwyr Cymdeithasol ac asiantaethau eraill i alluogi cynllunio cymorth effeithiol mewn modd amserol.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn dosturiol ac yn deall anghenion gofalwyr sy'n berthnasau ac yn angerddol am gyflawni sefydlogrwydd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys cefnogi'r Tîm Maethu gan Berthynas a'r gwasanaeth maethu yng nghyd-destun ehangach ymgymryd â Dyletswydd fel rhan o system rota, dyletswyddau ychwanegol sy'n cefnogi anghenion gofalwyr sy'n berthnasau a phlant yn eu gofal a bod yn rhan o'r digwyddiadau maethu recriwtio a chadw a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.
Yn gyfnewid am eich angerdd a'ch ymrwymiad, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol ac amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu. Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd dysgu gwerth chweil lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Sefydlogrwydd yn Nhîm Maethu Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch ag: Amanda Etherington (amanda.etherington@bridgend.gov.uk)
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 28 Mai 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Mai 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 06 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person