30 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am ymgeisydd ymrwymedig a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Synhwyraidd sefydledig fel Cynorthwyydd Synhwyraidd. Mae'r tîm yn darparu cyngor, cymorth ac arweiniad, asesiadau yn y cartref, adsefydlu, gan gynnwys addysgu sgiliau byw bob dydd, therapi golwg gwan, ac mae'n darparu amrywiaeth o offer ac addasiadau yn ogystal â chymorth emosiynol a seicolegol a chyfeirio i amrywiaeth o wasanaethau arbenigol, i unigolion sydd â nam ar y synhwyrau.
Eich rôl fydd cefnogi'r Arbenigwyr Adfer Golwg a'r Swyddogion Cymorth Synhwyraidd yn eu gwaith drwy gymryd rhan wrth ddarparu ac atgyfnerthu rhaglenni adsefydlu, annibyniaeth a sgiliau, sefydlu a dangos offer naill yng nghartrefi unigolion neu yn ein canolfan asesu.
Cysylltwch â Sandy Davies neu Neil Abraham i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor. Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae trwydded yrru ddilys yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 29 Tachwedd 2024 Dyddiad Cyfweld: 17 Rhagfyr 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person