Mae cyfle cyffrous i Uwch-ymarferydd sy'n mwynhau gweithio mewn gwasanaeth heriol, cyflym wedi codi ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Tîm Maethu yn rhan o Ranbarth Cwm Taf ac fel rhan o'n dull o recriwtio gofal maeth ychwanegol rydym wedi datblygu drws ffrynt rhanbarthol i sicrhau ymateb amserol i unrhyw ymholiadau newydd.
Rydym yn chwilio am Uwch-ymarferydd dynamig, brwdfrydig a gwybodus i gynorthwyo'r tîm rheoli yn y Tîm Maethu Cyffredinol i reoli, cydlynu a datblygu'r tîm, i recriwtio, asesu, adolygu a chynorthwyo Gofalwyr Maeth Cyffredinol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r tîm rheoli i ddatblygu a sicrhau gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i ofalwyr maeth, plant â phrofiad o fod mewn gofal, aelwydydd sy'n maethu a rhwydweithiau cymorth yn unol â pholisïau presennol, arfer gorau, deddfwriaeth, gweithdrefnau a systemau adrodd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar lwyth achosion cymhleth ac yn darparu goruchwyliaeth i rai aelodau o'r tîm, gan gymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu a gweithredu meysydd dynodedig o arfer da a datblygu gwasanaethau.
Bydd y rôl yn cynnwys cydweithio ar draws yr holl dimau Plant yn yr Awdurdod Lleol, yn enwedig y Tîm Profiad Gofal a'r tîm 15+ sy'n cefnogi plant sy'n derbyn gofal a darparwyr allanol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Maethu gan Berthynas a Sefydlogrwydd sy'n cynorthwyo gofalwyr maeth sy'n bersonau cysylltiedig a Gwarcheidwaid Arbennig.
Rydym yn dîm bach a chyfeillgar gyda chyfleoedd dysgu a datblygu gwych i staff wneud cynnydd o ran eu dyheadau gyrfa.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Fe'i lleolir mewn safle dymunol rhwng Abertawe a Chaerdydd ac mae'n ymestyn o'r cymoedd hardd i'n harfordir hyfryd – gyda mynediad hawdd i ganolfannau trefol yn ogystal â lleoliadau gwledig ac arfordirol deniadol. Gydag ysgolion ardderchog, tai fforddiadwy a gwasanaethau cyhoeddus ardderchog, mae rhywbeth at ddant pawb yma, a digon i'w wneud drwy gydol y flwyddyn i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae cymhwyster Gwaith Cymdeithasol yn ofynnol ynghyd â chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ynghyd â pharodrwydd i weithio tuag at gymhwyster Rheoli.
Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Amanda De Leon Capdesuner, Rheolwr Tîm Maethu Cyffredinol ar 07483396337 / 01656 643420 neu amanda.capdesuner@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 11 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 25 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 8 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person