Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a phrofiadol a fydd yn gyfrifol am ddatblygiad strategol a rheoli gweithredol cyffredinol ein Cyfleoedd Dydd ar gyfer pobl ag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth sy'n byw yn y gymunedBydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ac yn arwain y cynlluniau strategol i ail-lunio ein modelau cymorth presennol ac yn cyfrannu at ddatblygiad ehangach gwasanaethau gofal cymdeithasol ac adnoddau cymunedol ar draws y gyfarwyddiaeth. Bydd ffocws ar wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y person ac yn cael eu harwain gan y person; bydd disgwyl i chi ddatblygu cyfleoedd i bobl, eu teuluoedd / gofalwyr i gymryd rhan weithredol mewn prosesau ymgynghori a datblygu gwasanaethau Bydd y rôl yn cynnwys cymryd yr awenau gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod gofynion statudol a chyfeiriad strategol yn cael eu bodloni ac yn cyflawni canlyniadau sy'n cael eu llywio gan safonau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y gwaith cyffredinol o reoli, arwain a datblygu rheolwyr, arweinwyr tîm a staff ar draws sawl safle ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o recriwtio ac yn gyfrifol am ddefnyddio adnoddau'n effeithiol ar draws gwasanaethau er mwyn bodloni ein gofynion statudol Mae cymhwyster cydnabyddedig mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ofyniad.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Uwch gydag Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Mawrth 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 21 Mawrth 2025
Dyddiad Cyfweld: 04 Ebrill 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person