37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol dynamig a medrus iawn i ymuno â'n Tîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty dynamig.
Mae gan dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty rôl hanfodol wrth roi cefnogaeth a chymorth i oedolion a'u teuluoedd ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty. Rydym yn gweithio ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn cynnal asesiadau i hwyluso pontio didrafferth, diogel, ac amserol o'r ysbyty i'r cartref neu i leoliadau gofal amgen. Rydym yn cynorthwyo pobl ar eu taith ysbyty yn ystod adegau o argyfwng i lywio cymhlethdodau prosesau gofal iechyd yn llwyddiannus, a'u cysylltu ag adnoddau cymunedol hanfodol. Mae'r tîm yn chwarae rhan ganolog wrth wella llesiant cyffredinol unigolion drwy hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n seiliedig ar gryfderau.
A chithau'n Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, byddwch yn gweithio ar flaen y gad o ran gofal cymdeithasol i oedolion, gan arwain ar arfer gorau, arloesi a mentora. Byddwch yn cynnal llwyth achosion cymhleth tra hefyd yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chryfderau ar draws y gwasanaeth. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ymyriadau amserol sy'n canolbwyntio ar y person sy'n hyrwyddo annibyniaeth, yn meithrin gwytnwch ac yn helpu unigolion i gyflawni eu nodau. Byddwch yn darparu arweiniad arbenigol i gydweithwyr ac asiantaethau partner ac yn chwarae rhan allweddol wrth lunio polisi a datblygu ymarfer ar draws y gyfarwyddiaeth.
A chithau'n weithiwr cymdeithasol ymgynghorol yn yr ysbyty, eich rôl fydd:
Arwain a modelu ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol yn Nhîm Gwaith Cymdeithasol yr Ysbyty.
Darparu cyngor a goruchwyliaeth arbenigol i aelodau'r tîm, gan gynnwys arwain datblygu ymarfer a goruchwyliaeth grŵp.
Cynnal ymchwil ac arwain mentrau gwella gwasanaethau.
Rheoli llwyth achosion cymhleth, gan gynnwys gwaith sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd Parhaus y GIG, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, a'r Llys Gwarchod.
Gweithio ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid cymunedol i ddarparu cymorth integredig a chanlyniadau cadarnhaol.
Mentora a chynorthwyo cydweithwyr, cyfrannu at ddarparu hyfforddiant ar draws y gwasanaeth.
Arwain gweithgarwch sicrhau ansawdd ac archwilio i gefnogi cydymffurfiaeth reoleiddiol a rhagoriaeth gwasanaeth.
Hyrwyddo ein Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau – Gweithio i Gyflawni Canlyniadau.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:
Diwylliant tîm cryf gyda mentora, goruchwyliaeth ac arfarniadau rheolaidd wedi'u hymgorffori.
Datblygiad proffesiynol cynhwysfawr a chefnogaeth ar gyfer DPP.
Opsiwn ar gyfer rhywfaint o weithio hybrid.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 28 Awst 202
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 01 Medi 2025
Dyddiad Cyfweliad: 24 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person