4 swydd ar gael
2 x 37 awr yr wythnos
1 x 33 awr yr wythnos £28,127 - £29,072 y flwyddyn
1 x 30 awr yr wythnos £25,570 - £26,492 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol ymuno â'n Canolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar. Mae'r tîm wedi cael ei ailgyflunio a'i ddatblygu yn dilyn ailstrwythuro gwaith cymdeithasol yn ddiweddar. Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol rhan-amser parhaol.
Byddwch yn rhan o'r Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, rydym yn cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i oedolion sydd wedi profi newid yn eu hamgylchiadau sydd wedi effeithio ar eu galluoedd arferol i fyw'n annibynnol.
Mae'r tîm yn darparu ymateb tymor byr, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, byddwch yn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a mynediad at wasanaethau cyffredinol. Byddwch yn sicrhau mynediad teg i ofal a chymorth galluogi tymor byr wedi'i deilwra i oedolion y mae anabledd a heneiddio yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ‘Yr hyn sy'n bwysig’ i unigolion a gofalwyr, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar lais a rheolaeth.
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:
Meddu ar lwyth achosion dirprwyedig yn unol â'ch sgiliau a'ch profiad a bod yn gyfrifol am hyn; a rheoli a chydlynu unrhyw ofal a chymorth sy'n ofynnol o dan oruchwyliaeth ymarferydd goruchwylio cymwys.
Bydd gofyniad i gydweithio â gweithiwr cymdeithasol, neu staff proffesiynol eraill ar achosion penodol; gallai hyn gynnwys bod yn weithiwr a ddyrannwyd eilaidd.
Byddwch yn cynnal asesiadau cychwynnol, penodol o ran amser, cymesur o dan oruchwyliaeth ymarferydd cymwys, gan nodi anghenion cymwys, a threfnu gofal a chymorth, lle y bo'n briodol drwy atebion cyffredinol ac wedi'u comisiynu, gan adolygu cynlluniau gofal a chymorth, a chynlluniau cymorth i ofalwyr, yn ôl yr angen. Byddwch yn ymwybodol o asesiadau risg a'u goblygiadau yn eich gwaith achos.
Bydd yn ofynnol i chi weithio ar y cyd â phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, eu teulu, gofalwyr, a chefnogwyr eraill fel y bo'n briodol, i sicrhau bod y canlyniadau a amlinellwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol yn cael eu bodloni'n briodol, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i'r unigolyn.
Bydd gofyniad i weithio mewn dull partneriaeth integredig ac amlddisgyblaethol, gan weithio gydag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i'r afael ag anghenion unigolion, eu teuluoedd, a'u gofalwyr, a lle y bo'n briodol cefnogwyr ac asiantaethau eraill, gan gynnwys rhannu gwybodaeth briodol yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gan sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gadw lle y bo'n bosibl.
Byddwch yn cynorthwyo ac yn cydymffurfio â Fframweithiau Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad y Gyfarwyddiaeth yn ogystal â gweithio o fewn Polisïau a Gweithdrefnau'r Gyfarwyddiaeth a'r Cyngor.
Byddwch yn gwybod, yn deall, ac yn cadw at ofynion y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, fel sy'n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r Cod yn rhestr o ddatganiadau sy'n disgrifio'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n ofynnol gan y rhai a gyflogir yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Byddwch yn cadw cofnodion cyfoes ar y ffeiliau electronig, a dogfennau perthnasol fel sy'n ofynnol yn unol â chanllawiau Ymarfer Cofnodi Achosion y Gyfarwyddiaeth.
Byddwch yn paratoi ar gyfer goruchwyliaeth a chymryd rhan ynddi fel sy'n ofynnol gan bolisi goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth. Yn ogystal â goruchwylio, byddwch yn paratoi arfarniadau blynyddol ac yn cymryd rhan ynddynt, gan nodi anghenion datblygu personol a hyfforddiant i gynnal gofynion cofrestru ynghyd â bod yn gyfrifol am eich perfformiad eich hun yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt.
Byddwch yn ymwybodol o ddyletswydd cydraddoldeb y cyngor ac yn ymrwymedig iddi wrth ddarparu gwasanaethau ymarfer a gofal a chadw at safonau'r Gymraeg, gan gymryd rhan yn y ‘cynnig rhagweithiol’.
Cadw at weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, goruchwyliaeth reolaidd, arfarniadau, hyfforddiant, a chyfleoedd datblygu.
Bydd y swydd hefyd yn rhoi profiad a gwybodaeth bellach os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am ein rhaglen hyfforddeion gwaith cymdeithasol. Bydd cynnydd i'r rhaglen yn amodol ar gymeradwyaeth rheolwr llinell.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: I'w gadarnhau
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person