37 awr yr wythnos
Cyfnod penodol hyd at 12 mis.
Rydym yn chwilio am ymarferydd brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth (MASH).
Mae'r Tîm Diogelu Oedolion a DoLS yn gyfrifol am ymateb i bryderon diogelu sy'n ymwneud ag oedolion mewn perygl, cynnal ymholiadau o dan Adran 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a chyflawni swyddogaethau statudol DoLS ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan weithio yn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth (MASH), mae'r tîm yn chwarae rôl allweddol wrth amddiffyn hawliau a hyrwyddo llesiant.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn tîm arbenigol ar adeg o ddatblygiadau sylweddol o ran y gyfraith ac ymarfer ym maes galluedd meddyliol ac amddifadu o ryddid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at sicrhau bod asesiadau a'r broses o wneud penderfyniadau yn gadarn yn gyfreithiol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael eu llywio gan gyfraith achosion gyfredol a chanllawiau cenedlaethol, gan gynnwys datblygiadau sy'n codi o'r dyfarniad yn achos A Reference by the Attorney General for Northern Ireland (AGNI).
Croesewir ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol, Nyrsys a Therapyddion Galwedigaethol cofrestredig, sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, sy'n angerddol am ddiogelu oedolion, hyrwyddo hawliau dynol a chymhwyso egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn ymarferol.
Ymunwch â ni a helpu i sicrhau bod rhai o'r aelodau mwyaf agored i niwed o'n cymuned yn cael eu hawliau, eu llais a'u dewisiadau wedi'u diogelu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo llesiant oedolion mewn perygl.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Bethan Jones, Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion a DoLS ar bethan.jones@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 4 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 6 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person