37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am ymgeisydd ymrwymedig a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Synhwyraidd sefydledig fel Cynorthwyydd Cymorth. Mae'r tîm yn darparu cyngor, cymorth ac arweiniad, asesiadau yn y cartref, adsefydlu, gan gynnwys addysgu sgiliau bywyd bob dydd, therapi golwg gwan, ac mae'n darparu amrywiaeth o offer ac addasiadau yn ogystal â chymorth emosiynol a seicolegol a chyfeirio i amrywiaeth o wasanaethau arbenigol.
Eich rôl fydd gweithredu fel gyrrwr a chynorthwyydd cymorth i alluogi aelod o'r tîm Synhwyraidd sydd ag amhariad ar y golwg i wneud ei ddyletswyddau'n effeithlon ac yn effeithiol. (Mae'r gweithiwr Synhwyraidd presennol yn gweithio o dan gyfarwyddyd y gweithwyr arbenigol yn y tîm i hyrwyddo Adsefydlu, Annibyniaeth a Chanlyniadau Cadarnhaol ymarferol gan ddefnyddio amrywiaeth o ymyriadau ymarferol.)
Gyrru'r gweithiwr Synhwyraidd ar draws ei ranbarth gwaith i gynorthwyo ymweliadau â chleientiaid, hyfforddiant a chyfarfodydd fel sy'n gymesur â chyfrifoldebau Deiliad Swydd y gweithiwr Synhwyraidd. Darparu cymorth golwg i'r gweithiwr Synhwyraidd, gan gynnwys cyfeiriadu a thywys mewn amgylcheddau anghyfarwydd. Dod o hyd i gyfeiriadau, cynllunio llwybrau ac amseroedd teithiau i sicrhau bod y gweithiwr Synhwyraidd yn gallu cyflawni ei ymrwymiadau dyddiadur mewn modd prydlon.
Sicrhau bod gyrru o fewn y rheoliadau traffig ffyrdd safonol a chynnal logiau cerbydau a chwblhau ffurflenni milltiroedd misol a chynnal archwiliadau cerbydau, mynd â'r cerbyd i gael ei drin, i gael MOT ac i gael ei lanhau. Cymryd nodiadau a darllen dogfennaeth i'r Cynorthwyydd Synhwyraidd yn ôl y gofyn a thrin gwybodaeth mewn modd sensitif a chynnal cyfrinachedd gan gymhwyso'r Ddeddf Diogelu Data lle bo angen. Cynorthwyo â mewnbynnu data sylfaenol ar Microsoft Office gan gynnwys Excel a Word, cadw calendr Outlook a chadw cofnodion cywir a chyfrinachol gan ddefnyddio WCCIS. Dod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y rhyngrwyd, y fewnrwyd a deunydd argraffedig. Dangos ymrwymiad a chymryd rhan weithredol mewn datblygiad proffesiynol parhaus fel sy'n berthnasol i'r rôl.
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
- Buddsoddi yn eich datblygiad, gyda chyfleoedd hyfforddi ar gyfer dysgu a datblygu ar gael, gan gynnwys nawdd i gaffael cymhwyster proffesiynol.
- Cymorth proffesiynol gan Uwch Ymarferydd arbenigol
- Cyflog cystadleuol
- Parcio am ddim yn y swyddfa
- Cynllun oriau hyblyg
- Gweithio hyblyg
Cysylltwch â Sandy Davies neu Chris Denharder i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 22 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 07 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person