37 awr yr wythnos
Mae cyfle gwych a chyffrous ar gael yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr i ymuno â'n uwch dîm rheoli.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ysbrydoledig a fydd, fel chwaraewr tîm, yn ymrwymedig i ansawdd, arloesedd, trawsnewid a phartneriaeth.
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith parhaus o weithredu ac ymgorffori'r model ymarfer arwyddion diogelwch ar gyfer gwasanaethau plant a theuluoedd, a'r system TG sy'n sail iddo, yn ogystal â gweithredu ehangach parhaus arwyddion diogelwch gydag asiantaethau partner.
Byddwch hefyd yn meddu ar gyfrifoldeb arweiniol a goruchwyliaeth reoli o ddatblygu polisi a gwella ansawdd.
Byddwch yn rheoli ein swyddog rhianta corfforaethol a chyfranogi, gan sicrhau bod llais plant a phobl ifanc wrth wraidd datblygu strategaeth a gwasanaeth.
Byddwch yn fodel rôl ar gyfer dulliau arweinyddiaeth addasol i sicrhau dull clir, cynhwysol ac ymgysylltiedig ar draws Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ei gyfanrwydd i gryfhau cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn galluogi ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau i sicrhau cynllunio i ddylunio a darparu gwasanaethau gyda phlant a theuluoedd ac ar eu cyfer gan ganolbwyntio ar ganlyniadau.
Byddwch yn dangos arddull gydweithredol a thosturiol ddatblygedig iawn, yn seiliedig ar werthoedd yn eich dull i gefnogi gofal diogel ac effeithiol i'r plant a'r teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda'r gallu i ddylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol ac ysgogi hyn.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau, y gwerthoedd, y wybodaeth, a'r profiad i roi arweinyddiaeth dosturiol, gydweithredol a dynamig i Wasanaethau Plant a Theuluoedd, byddem yn croesawu eich cais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor. Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae Dyletswyddau Wrth Gefn yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person