37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 30 Ebrill 2028
Rydym yn cynnig cyfle i rywun ymuno â Thîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol a dilyn rhaglen brentisiaeth a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa ym maes gweinyddu busnes.
A chithau'n cael hyfforddiant mewn swydd, profiad a chymorth i gyflawni FfCCh (Fframwaith Credydau a Chymwysterau) Lefel 2 mewn gweinyddu busnes, byddwch yn dysgu am waith Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gan gynorthwyo ym mhob maes gweinyddu yn Nhîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo gweithgarwch dysgu a datblygu ar draws y sector gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn meddu ar sgiliau TGCh rhagorol eisoes, gan gynnwys prosesu geiriau a thaenlenni gyda phrofiad o ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office neu gyfwerth. Bydd hyn wedi'i ategu gan safon dda o addysg ag isafswm o 3 TGAU, i gynnwys Saesneg a Mathemateg, ar radd C neu uwch. Bydd eich agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu a datblygu a'r gallu i weithio gydag eraill yr un mor bwysig.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried i'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys gradd mewn unrhyw faes pwnc. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Dyddiad Cau: 30 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 2 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Hydref 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person