37 awr yr wythnos
Mae cyfle gwych a chyffrous ar gael yng Ngofal Cymdeithasol i Blant Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu uwch reolaeth weithredol ac arweinyddiaeth strategol i Wasanaethau Plant fel uwch reolwr.
Rydym yn ymrwymedig i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a'u teuluoedd drwy gyflwyno ffyrdd cefnogol ac effeithiol o weithio mewn partneriaeth.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ysbrydoledig a fydd, fel aelod tîm, yn ymrwymedig i ansawdd, arloesedd, trawsnewid a gweithio mewn partneriaeth.
Byddwch yn fodel rôl ar gyfer dulliau arweinyddiaeth addasol i sicrhau dull clir, cynhwysol ac ymgysylltiedig ar draws Gofal Cymdeithasol i Blant yn ei gyfanrwydd i gryfhau cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn galluogi ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau i sicrhau cynllunio i ddylunio a darparu gwasanaethau gyda phlant a theuluoedd ac ar eu cyfer gan ganolbwyntio ar ganlyniadau.
Byddwch yn dangos y gallu i gryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr amlasiantaethol a rhoi arweinyddiaeth a chyfeiriad cydweithredol o ran datblygu cymorth o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.
Byddwch yn sicrhau'r safonau uchaf o arweinyddiaeth a rheolaeth weithredol strategol. Byddwch yn dangos arddull gydweithredol a thosturiol ddatblygedig iawn, yn seiliedig ar werthoedd yn eich dull i arwain gofal diogel ac effeithiol i'r plant a'r teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r gallu i ddylanwadu ar arloesi a newid trawsnewidiol ac ysgogi hyn.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau, y gwerthoedd, y wybodaeth, a'r profiad i roi arweinyddiaeth dosturiol, gydweithredol a dynamig i Ofal Cymdeithasol i Blant, yna byddem yn croesawu eich cais. Yn ddiweddar, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio'r model ymarfer arwyddion diogelwch ac felly byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar sut i ddefnyddio'r model hwn o weithio.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 13 Rhagfyr 2023
Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person