37 awr yr wythnos
A ydych yn chwilio am rôl Therapi Galwedigaethol heriol a gwerth chweil? A ydych erioed wedi meddwl am weithio mewn amgylchedd carchar? Os felly, efallai fod gennym yr union swydd i chi.
Mae carchardai yn un o'r lleoedd mwyaf heriol, ond gwerth chweil, i weithwyr gofal iechyd proffesiynol weithio ynddynt - os ydych yn chwilio am rôl lle gallwch ddatblygu eich sgiliau presennol a dysgu rhywbeth newydd bob dydd, yna dyma'r lle i fod.
Mae CEF y Parc yn garchar Categori B i ddynion sy'n cynnwys carcharorion sydd wedi'u dedfrydu a'u cadw. Gyda chapasiti gweithredol o tua 2000 ac adain bwrpasol ar gyfer carcharorion hŷn ac anabl, CEF y Parc yw un o'r carchardai mwyaf a mwyaf modern yn y DU. Mae'r carchar wedi'i leoli ger Cyffordd 36 yr M4, 5 munud o ganol Pen-y-bont ar Ogwr ac 20 munud o Gaerdydd ac Abertawe.
Bydd y rôl yn brofiad heb ei debyg, sy'n gofyn am gefndir amrywiol a chymysg ym maes Therapi Galwedigaethol. Mae'r rôl yn cynnwys asesu, cynllunio a diwallu anghenion gofal cymdeithasol i rai cleifion cymhleth sydd ag amrywiaeth eang o anghenion iechyd corfforol a meddyliol.
Byddwch yn aelod allweddol o dîm Gofal Cymdeithasol sydd hefyd yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol a staff gofal ac, fel y Therapydd Galwedigaethol, gallwch ddisgwyl bod yn rhan o bob agwedd ar y dull cynllunio gofal ar gyfer cleientiaid yn eich llwyth achosion. Mae gweithio amlbroffesiynol, cyfathrebu effeithiol a sgiliau gweithio mewn tîm yn hanfodol yn ogystal â sgiliau cadw cofnodion rhagorol.
o ystyried natur y rôl, nodwch fod y swydd hon hefyd yn destun fetio G4S/ HMPPS.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle unigryw hwn, cysylltwch â Chris Denharder, Rheolwr Therapi Galwedigaethol, Chris.Denharder@bridgend.gov.uk neu, Charlotte Pickin, Rheolwr Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Charlotte.Pickin@bridgend.gov.uk
Gellir trefnu ymweliadau â'r carchar a chyfle i sgwrsio â deiliad presennol y swydd.
Byddwch yn ymwybodol o ddyletswydd cydraddoldeb y cyngor ac yn ymrwymedig iddi wrth ddarparu gwasanaethau ymarfer a gofal a chadw at safonau'r Gymraeg, gan gymryd rhan yn y ‘cynnig rhagweithiol’.
Mae cadw at weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan yn sylfaenol i'r rôl.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, goruchwyliaeth reolaidd, arfarniadau, hyfforddiant, a chyfleoedd datblygu.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad gan Heddlu De Cymru yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 6 Awst 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 8 Awst 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 18 Awst 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person