20 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf.
Rydym yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau i bobl sy'n cael eu cefnogi mewn lleoliad gofal preswyl parhaol neu dymor byr yn Nhŷ Cwm Ogwr. Cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth, adennill, gwella a chynnal sgiliau byw bob dydd, darparu'r canlyniadau gorau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt mewn amgylchedd diogel.
Byddwch yn gweithio fel rhan o'r tîm domestig mewnol i sicrhau bod rheolaeth a safonau glendid a rheoli heintiau yn cael eu cynnal. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys glanhau pob ardal gymunedol drwy'r cartref, y prif goridorau, glanhau ystafelloedd personol preswylwyr, cynorthwyo'r brif gegin yn ystod yr oriau 4 i 8pm pan fo'n ofynnol, gweithredu offer trydanol, mecanyddol a golchdy. Cymryd cyfrifoldeb am eich llesiant a bod yn ymwybodol o Bolisïau a Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd a'u dilyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich dysgu ymhellach yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â gwerthoedd cadarn, sy'n gallu dangos parch, yn gallu cyfrannu at fywydau pobl a gwneud gwahaniaeth iddynt. Byddwch yn dda am wrando a bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol.
Dewch i ymuno â'n tîm ymroddedig ac ymrwymedig.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â: -
Gwerthoedd ac egwyddorion cadarn, sy'n canolbwyntio ar y person.
Y gallu i fod yn barchus a gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywydau pobl.
Sgiliau gwrando a chyfathrebu gweithredol
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi: -
Cyflog cystadleuol
Hawl i wyliau blynyddol hael
Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith.
Gwersi Cymraeg am ddim.
Bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau, ac ar wyliau banc os bydd angen. Bydd y shifftiau'n cael eu trefnu gan reolwr y gwasanaeth a byddant yn newid er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gweithio ar benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 5 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 6 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person